Neidio i'r cynnwys

Commons:Wiki Loves Folklore 2025 in Wales

Oddi ar Wikimedia Commons
Wici Diwylliant 2025: 1 Chwefror - 31 Mawrth
Rhannu treftadaeth
unigryw Cymru
gyda'r byd
This is a bilingual Project Page.
For Welsh version, change your User settings (above) to Cymraeg.

Cystadleuaeth ffotograffig ryngwladol yw Wici Llên Gwerin i fwynhau a dathlu'r amrywiaeth ddiwylliannol pob cwr o'r Byd trwy brosiectau Wicimedia (yn bennaf Wicipedia a Chomin Wicimedia). Gall pawb gymryd rhan.

Cymryd rhan

Tynnwch lun a'i lanlwytho i Gomin Wicimedia. Gwnewch yn siŵr eich bod yn rhoi eich cyfeiriad e-bost ar eich proffil Wicimedia neu efallai na fyddwn yn medru cysylltu â chi os byddwch yn ennill un o'r gwobrau.

Yng Nghymru, rydym yn galw ar bobl i blymio i'w harchifau ffotograffau neu ymweld â safleoedd lleol sydd â chysylltiadau â diwylliant a threftadaeth Cymreig a'u lanlwytho i ennill gwobr!

Nod sylfaenol y gystadleuaeth yw casglu lluniau o amrywiaeth ddiwylliannol ddynol i ddangos erthyglau yn y gwyddoniadur byd-eang am ddim Wicipedia a phrosiectau Sefydliad Wikimedia. Rhaid i'r lluniau a ddarperir gyd-fynd â'r thema, gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i wyliau, diwylliant materol, dawnsfeydd, bwyd, dillad neu drefn bywyd beunyddiol sy'n pwysleisio ar ddiwylliant gwerin Cymru.

I gael gwybod am yr holl gystadlaethau cenedlaethol eraill sy'n digwydd, ewch i'r wefan rhyngwladol.

Trefnir yr ornest yng Nghymru gan Wikimedia UK, mewn cydweithrediad â thîm rhyngwladol Wiki Loves Folklore.

Awgrymiadau

Beirniadu

Bydd y beirniaid ar gyfer y gystadleuaeth ryngwladol yn beirniadu ceisiadau unigol yn seiliedig ar y meini prawf canlynol:

  • Ansawdd technegol
  • Gwreiddioldeb
  • Defnyddioldeb posibl a gwerth cyffredinol y ddelwedd (gan gynnwys ei thrwyddedu) i brosiectau Wikimedia

Tynnu lluniau

  • Byddwch yn barchus ac yn ystyriol o'r bobl o'ch cwmpas.
  • Os ydych yn tynnu lluniau tu mewn i adeilad, stopiwch ar unwaith os gofynnir i chi wneud hynny. Mae rhai lleoedd yn gwahardd ffotograffiaeth fewnol, ond mewn mannau eraill efallai y cewch barhau os gofynnwch am ganiatâd.
  • Peidiwch â thresmasu ar eiddo preifat (mae'n hollol iawn, serch hynny, i dynnu ffotograffau wrth sefyll mewn man cyhoeddus fel y stryd). *Lle bo'n bosibl, ceisiwch osgoi tynnu lluniau cerbydau, ac yn enwedig rhif y cerbyd.
  • Peidiwch ag uwchlwytho ffotograffau o bosteri, hysbysfyrddau, arwyddion, neu unrhyw beth arall sydd â thestun neu ddelweddau dau ddimensiwn a allai fod wedi'u gwarchod gan hawlfraint. Mae hynny'n berthnasol hyd yn oed i destun neu ddelweddau sydd mewn man cyhoeddus. Mae paentiadau waliau hynafol mewn eglwysi yn iawn, fel y mae lluniau o ffenestri lliw o unrhyw ddyddiad.

Amserlen

  • 1 Chwefror: Mae'r gystadleuaeth yn agor yn swyddogol, ac mae uwchlwytho lluniau'n dechrau.
  • 31 Mawrth: Cystadleuaeth yn cau, lanlwytho lluniau yn dod i ben.
  • Canlyniadau rhyngwladol i'w cyhoeddi erbyn diwedd Gorffennaf 2025 ar Wici Diwylliant 2025 ar Comin

(Sylwer: Gall dyddiad cyhoeddi'r canlyniad newid o dro i dro, yn amodol ar amgylchiadau annisgwyl.)

Ystadegau

2
Ystadegau
purge – Data as of 10:21 pm, 11 February 2025

Gwobrau Rhyngwladol

Gallwch ennill y gwobrau canlynol yn y gystadleuaeth ryngwladol:

  • Cyntaf: 400 USD
  • Ail: 200 USD
  • Trydydd 100 USD
  • Top 10 consolation prizes:gwobrau atodol USD yr un
  • Y Fideo gorau a'r sain gorau 25 USD, 25 USD yr un
  • Uwchlwythwr gyda'r nifer fwyaf o luniau: Cyntaf 100 USD, Ail 50 USD
  • Cardiau Post: y 10 Uwchlwythwr gorau



Sylwer: Gwobrau i'w dfosbarthu / postio mewn cerdyn rhodd neu fformat taleb gan y tîm trefnu rhyngwladol, nid gan Wikimedia UK.

Cysylltwch

Mae sawl ffordd o gysylltu â ni:

Gallwch ganfod rhan o Ddiwylliant Cymru
Gall y canlynol ysbrydoli eich delweddau: eisteddfodau, gwyliau, dawnsfeydd, bwyd Cymreig, dillad traddodiadol, crefftau fel pedoli ceffyl...


Tynnu lluniau
Cymerwch gymaint o luniau ag y gallwch, rhowch gynnig ar wahanol onglau. Hyd yn oed os nad yw'r llun yn ennill gwobr i chi, gallai helpu i roi bywyd yn erthyglau Wicipedia - y gwyddoniadur rhydd ac agored mwya'r byd.


Disgrifiwch mewn geiriau
Disgrifiwch y ffotograffoch rydych wedi'i dynnu - cymaint ag y medrwch (lle, amser, amgylchiadau). Yn ddelfrydol, dylai eich lluniau hefyd gael eu daear-dagio.


Lanlwytho i Comin
Lanlwythwch eich lluniau i Gomin Wicimedia rhwng 1 Chwefror a 31 Mawrth. Crewch gyfrif, os nad oes gennych un eisoes... a gwnewch yn siŵr eich bod yn cynnwys eich cyfeiriad e-bost fel y gallwn gysylltu â chi os byddwch yn ennill! POB HWYL