Welsh subtitles for clip: File:Art and Feminism Wikipedia Edit-a-thon, February 1, 2014.webm
Jump to navigation
Jump to search
[train] [Holly Stec Dankert] A dyma ni yn Llyfrgell John M. Flaxman yn Ysgol Gelf Chicago - ac yn un o nifer o grwpiau drwy'r byd sy'n cynnig Golyg-a-thon "Celf a Ffeministiaeth" heddiw sef y cyntaf o Chwefror. Mae'n ffordd hwylus i ddod a llais y ferch, awduron a golygyddion benywaidd i fewn i gymuned Wicipedia, ac rydym ni'n canolbwyntio ar gelf a ffemisnistiaeth. Rydym yn ceisio cynyddu'r artistiaid benywaidd sy'n cael eu cynrychioli ac yn ychwanegu ffynonellau sydd eisioes ar Wicipedia. Grabiwch hwn. Reit. A gwnewch yn siwr eich bod yn cael hwn hefyd, dyna pam y gwnaethom ni o. Reit. Welwch chi hwna? [Holly Stec Dankert] Wyddoch chi be? Mae Chicago'n wyn dan eira heddiw, a dydyn ni ddim yn rhy hapus am hynny! Ond fe drodd llawer o bobl i'r Edit-a-thon yma. Mae llawer yn olygyddion newydd nad ydyn nhw wedi golygu 'run gair ar Wicipedia yn y gorffennol. [Melanie Emerson] Mae 'na ymchwil wedi'i wneud i fewn i pam nad oes llawer o erthyglau ar Wicipedia am y fenyw, a 'da ni'n ceisio gwneud iawn am hynny a chyhoeddi i'r byd a'r betws fod angen rhagor o ferched i olygu. Dyai'r cynnwys hefyd adlewyrchu'r boblogaeth - sy'n cynnwys cryn nifer ohonom! [Holly Stec Dankert] Mae'r peth yn digwydd yma ac acw dros y blaned - a gall unrhyw un sydd a mynediad i'r we ymuno efo ni. [Melanie Emerson] Do, mi ffindiais fod gan lawer o bobl gwestiynau sut i fynd ati i olygu a sut i gael ffynonellau dibynadwy, cadarn fel bod eu gwaith yn aros ar Wicipedia. Wrth weld ffrwyth ein llafur a gweld sut mae'r holl beth yn tyfu wrth i ferched gael mwy a mwy o brofiad yn golygu ac mae nhw'n edrych yn fwy cyfforddus yn ehangu erthyglau ar ferched mewn celf, a phethau eraill hefyd. [music and credits] Cafwyd 27 golyg-a-athon mewn gwahanol lefydd ledled y byd ar y 1af o Chwefror 2014. Amcangyfrifir i dros 600 o bobl gymryd rhan. Crewyd dros 100 o erthyglau newydd ac ehangwyd dros 90 o erthyglau. I ganfod Wici-gyfarfodydd yn eich hardal: https://en.wikipedia.org/wiki/Wikipedia:Meetup [closed-captioning captions by AlanKelly VerbatimIT]