Welsh subtitles for clip: File:Ikusgela - Txillardegi.webm

From Wikimedia Commons, the free media repository
Jump to navigation Jump to search
1
00:00:03,320 --> 00:00:07,750
Ni ellir diffinio rhai pobl
mewn un frawddeg yn unig.

2
00:00:07,813 --> 00:00:10,173
Rhagflaenydd y
nofel Fasgeg fodern.

3
00:00:10,400 --> 00:00:12,320
Unodd y Fasgeg.

4
00:00:12,370 --> 00:00:13,850
Gwleidydd milwriaethus.

5
00:00:13,900 --> 00:00:16,340
Meddyliwr ac ymgyrchydd diflino.

6
00:00:16,640 --> 00:00:20,606
Roedd José Luis Álvarez
Enparantza'n fwy na

7
00:00:20,630 --> 00:00:23,690
hyn ac yn fwy
adnabyddus fel Txillardegi.

8
00:00:24,256 --> 00:00:27,233
Rydym yn ddyledus iddo yng Ngwlad y Basg
am ei weithiau llenyddol

9
00:00:27,245 --> 00:00:31,120
athronyddol a gwyddonol
o bwysigrwydd rhyngwladol.

10
00:00:31,440 --> 00:00:36,740
Fe'i ganed yn Donostia, yn
1929, i deulu bach bourgeois.

11
00:00:37,200 --> 00:00:41,610
Er bod ei fam yn siarad Basgeg,
ni ddysgodd ei rieni air o'r iaith.

12
00:00:42,180 --> 00:00:44,810
Iaith y cartref oedd y Sbaeneg.

13
00:00:44,980 --> 00:00:47,620
Fodd bynnag, "Mi deimlais ryw awydd -

14
00:00:47,644 --> 00:00:51,183
yn y dref frenhinol a Sbaeneg ei hiaith -
mi deimlais, ers yn ifanc iawn...

15
00:00:51,208 --> 00:00:54,398
ryw awydd cynhenid
i adennill fy iaith, iaith y dref

16
00:00:54,422 --> 00:00:56,440
a'i throi'n
iaith gyfathrebu."

17
00:00:57,450 --> 00:00:59,810
Yn 17 oed
cymerodd y cam tuag at hynny.

18
00:01:00,190 --> 00:01:05,250
Wedi'i arwain gan lyfrau ei ewythr,
dechreuodd ddysgu Basgeg.

19
00:01:05,550 --> 00:01:10,230
Yn fuan wedyn, dechreuodd fynd i
ddosbarthiadau Basgeg yn y dirgel!

20
00:01:10,570 --> 00:01:13,570
Daeth yr iaith ag ef
yn nes at filwriaeth wleidyddol.

21
00:01:14,231 --> 00:01:17,781
Yng nghanol regime llym
Franco, ffordd arall o wynebu'r

22
00:01:17,793 --> 00:01:21,430
awdurdodau oedd dysgu,
ac addysgu, a siarad Basgeg.

23
00:01:21,870 --> 00:01:25,341
Yn ifanc iawn
cyfarfu â Jone Forcada Adarraga,

24
00:01:25,353 --> 00:01:29,030
yr athro a oedd yn bartner,
yn ffrind ac yn gydymaith teithiol iddo.

25
00:01:29,380 --> 00:01:32,180
Astudiodd
Beirianneg yn Bilbo.

26
00:01:32,450 --> 00:01:38,730
Yno sefydlodd
grŵp EKIN gyda chydweithwyr eraill ym 1952.

27
00:01:38,980 --> 00:01:42,730
EKIN oedd rhagflaenydd
yr ETA diweddarach.

28
00:01:42,970 --> 00:01:44,830
Roedd gan y grŵp hwnnw ddau amcan:

29
00:01:45,140 --> 00:01:48,960
ar y naill law, dysgu trwy
hunan-addysg hanes y Basgaidd

30
00:01:48,972 --> 00:01:53,010
yr oedd Ffrancoaeth yn ei ddileu.

31
00:01:53,220 --> 00:01:56,729
Ac ar y llaw arall, bod yn
feirniadol o'r

32
00:01:56,741 --> 00:02:00,140
cenedlaetholdeb clasurol, a cheisio
breuddwydio am Wlad y Basg newydd.

33
00:02:00,300 --> 00:02:03,820
Arestiwyd ef ddwywaith am
ei weithgarwch cymdeithasol a gwleidyddol.

34
00:02:04,080 --> 00:02:09,630
Achosodd hyn i Txillardegi
droi'n alltud ym 1961

35
00:02:09,750 --> 00:02:15,000
a threuliodd 17 mlynedd dramor,
yn Ffrainc a Gwlad Belg.

36
00:02:15,210 --> 00:02:19,360
Fodd bynnag, cynhaliodd ei gysylltiad
â diwylliant a phobl Gwlad y Basg.

37
00:02:19,630 --> 00:02:26,810
Dychwelodd yn 1977 ar ôl byw gyda'i deulu
yn Hendaia am y chwe blynedd flaenorol.

38
00:02:27,360 --> 00:02:30,465
Cyfranodd Txillardegi
i sawl maes:

39
00:02:30,477 --> 00:02:33,780
o ieithyddiaeth i lenyddiaeth.

40
00:02:34,120 --> 00:02:36,200
Hefyd ym maes meddwl.

41
00:02:36,940 --> 00:02:41,185
Wrth adeiladu'r meddylfryd Fasgeg newydd
ar ôl y rhyfel, datblygodd

42
00:02:41,197 --> 00:02:42,886
yr athroniaeth o
'ryddid ymroddedig',

43
00:02:42,911 --> 00:02:45,865
wedi'i chymysgu'n ddwfn â
dirfodolaeth (existentialism).

44
00:02:45,890 --> 00:02:51,262
Hynny yw, nid rhyddid unigolyn
hunangynhaliol,

45
00:02:51,287 --> 00:02:53,580
ond yn hytrach yr un
sy'n dod i'r amlwg yn y

46
00:02:53,604 --> 00:02:56,962
berthynas barhaol rhwng
yr unigolyn a'r casgliadol.

47
00:02:57,280 --> 00:02:59,881
Mae'n rhyddid ymroddedig, na

48
00:02:59,905 --> 00:03:02,708
all ddatblygu ond o
gysylltiad â

49
00:03:02,720 --> 00:03:04,930
chyfleoedd
ac ymrwymiadau penodol,

50
00:03:04,954 --> 00:03:08,220
a gall bob amser geisio
cyfiawnder i'r gorthrymedig.

51
00:03:08,620 --> 00:03:11,110
Mae'n rhyddid gyda
dimensiwn gwleidyddol clir.

52
00:03:12,070 --> 00:03:14,886
Rhennir y weledigaeth
hon gan Txillardegi

53
00:03:14,910 --> 00:03:18,250
ag aelodau eraill o
genhedlaeth 1956,

54
00:03:18,823 --> 00:03:21,023
gan gynnwys Joxe Azurmendi.

55
00:03:21,720 --> 00:03:25,570
Ar ddiwedd y 1950au a thrwy
gydol y 1960au,

56
00:03:25,582 --> 00:03:29,230
datblygodd y genhedlaeth hon
ystyr newydd i fod yn Basgydd.

57
00:03:29,500 --> 00:03:32,048
Dyma rai o'i golofnau:
nid yw person yn cael

58
00:03:32,072 --> 00:03:34,820
ei eni yn Basgydd,
ond yn dod yn un.  Mae'r

59
00:03:35,200 --> 00:03:37,500
iaith Fasgeg yn ein gwneud ni'n Basgydd.

60
00:03:37,670 --> 00:03:40,050
A heb yr iaith Fasgeg,
nid oes Gwlad y Basg.  Mae

61
00:03:40,360 --> 00:03:43,830
iaith waharddedig yn gyfystyr
a dynoliaeth waharddedig.

62
00:03:44,200 --> 00:03:47,640
Amlygwyd dimensiwn gwleidyddol
iaith a diwylliant.

63
00:03:47,950 --> 00:03:51,413
Yn ôl y rhain, mae sefyllfa
iaith yn ganlyniad i

64
00:03:51,425 --> 00:03:54,900
gyfres o benderfyniadau gwleidyddol
ac nid yn ffaith ynddo'i hun.

65
00:03:55,050 --> 00:03:57,844
Rhoesant siâp i
genedlaetholdeb newydd a

66
00:03:57,856 --> 00:04:01,140
fyddai'n mewnoli'r
cymeriad gwleidyddol a diwylliannol.

67
00:04:01,340 --> 00:04:05,320
Gan hawlio hawliau'r unigol
a hawliau cyfunol roedd

68
00:04:05,940 --> 00:04:09,772
Txillardegi yn ystyried ei hun
yn “ddeallusol ymroddedig,”

69
00:04:09,796 --> 00:04:13,010
ac ar y llwybr hwnnw,
cadwodd ei fywyd â'i waith

70
00:04:13,022 --> 00:04:17,694
trwy gydol ei yrfa
nodwedd sy’n

71
00:04:17,718 --> 00:04:20,380
haeddu cael ei dyfynnu: sef y berthynas
rhwng meddwl a gweithredu.

72
00:04:20,880 --> 00:04:25,070
Rhaid gweithredu a myfyrio
ar yr un pryd a hynny law yn llaw.

73
00:04:25,270 --> 00:04:28,592
Rhaid datblygu meddwl cynhyrchiol,

74
00:04:28,604 --> 00:04:32,117
mewn deialog barhaol
gyda'r gymdeithas sydd ohoni.

75
00:04:32,520 --> 00:04:37,070
Amddiffynnodd Txillardegi y
dylid dilyn y llwybr hwn ar ddau sylfaen:

76
00:04:37,340 --> 00:04:39,180
1-.
1-Radicaliaeth.  Mae'r duedd

77
00:04:39,670 --> 00:04:43,800
i ddod o hyd i'r gwreiddiau
yn gyson yng ngwaith Txillardegi.

78
00:04:44,190 --> 00:04:47,492
Mae'n amddiffyn adnabyddiaeth
sylfaen (neu waelod) y cwlwm

79
00:04:47,504 --> 00:04:50,960
neu'r cwestiwn, yn ogystal â
meddwl a gweithredu ohono,

80
00:04:51,524 --> 00:04:57,090
hyd yn oed pan mae'n golygu bod y tu allan
ac yn erbyn y ffasiwn, os oes angen.

81
00:04:57,990 --> 00:04:59,750
2-Gostyngeiddrwydd.

82
00:05:00,067 --> 00:05:03,447
Mae’n air sy’n ymddangos yn
gyson yng ngwaith Txillardegi.

83
00:05:03,880 --> 00:05:07,154
Ac ar sawl achlysur
mae'n ymddangos yn

84
00:05:07,178 --> 00:05:09,850
gysylltiedig ag un o'i
ddiddordebau: seryddiaeth.

85
00:05:10,460 --> 00:05:15,590
Achos beth well nag syllu
i'r sêr i ffrwyno balchder dynol?

86
00:05:16,780 --> 00:05:19,569
O fewn ei weithiau ef
gallwn ddod o hyd i syniadau eraill

87
00:05:19,581 --> 00:05:22,320
sydd hefyd yn bresennol
mewn dadleuon cyfredol.

88
00:05:22,790 --> 00:05:24,992
Yn eu plith: er ei
fod yn beiriannydd,

89
00:05:25,016 --> 00:05:27,457
roedd Txillardegi yn feirniadol

90
00:05:27,469 --> 00:05:31,860
o wyddoniaeth a'r diddordeb dall
mewn technoleg.

91
00:05:32,470 --> 00:05:37,100
Trodd ei gefn ar ei optimistiaeth
y byd technolegol ar sawl achlysur.

92
00:05:37,410 --> 00:05:39,810
“Ni fydd technoleg yn ein hachub.”

93
00:05:40,320 --> 00:05:42,687
Ar y llaw arall, mae'r
syniad bod bodau dynol yn

94
00:05:42,699 --> 00:05:45,180
anifail dynol yn
cyfrodeddu drwy ei waith.

95
00:05:45,740 --> 00:05:49,250
Dangosodd barch
at anifeiliaid eraill

96
00:05:49,262 --> 00:05:52,420
yn gynnar, hyd yn oed,
cyn i hynny ddod yn beth poblogaidd.

97
00:05:52,930 --> 00:05:57,650
Ar ddiwedd ei oes, cymerodd safiad
cyhoeddus yn erbyn ymladd teirw.

98
00:05:58,130 --> 00:06:01,050
Bu farw yn Donostia yn 2012,
yn 82 oed,

99
00:06:01,062 --> 00:06:04,060
gan adael ei ôl ar ieitheg a'r Fasgeg.

100
00:06:05,290 --> 00:06:10,243
Yn 1997 anrhydeddwyd ef
gan Ganolfan Ieuenctid Durango,

101
00:06:10,255 --> 00:06:12,625
The comments he made to
those young people still resonate.

102
00:06:12,649 --> 00:06:16,068
Mae'r sylwadau a wnaeth i'r bobl
ifanc ar y dydd hwnnw'n dal i atseinio:

103
00:06:16,510 --> 00:06:19,345
“Peidiwch byth â bod
yn gaethweision i ffasiwn.

104
00:06:19,370 --> 00:06:24,700
“ a chynhaliwch ysbryd beirniadol
a meddwl annibynnol bob amser.”