Welsh subtitles for clip: File:Wikimedia UK Wikimania 2013 video.webm
Jump to navigation
Jump to search
1 00:00:19,500 --> 00:00:23,492 Helo. Fy enw i yw Jon Davies, a fi yw Prif Weithredwr Wikimedia UK. 2 00:00:23,492 --> 00:00:27,302 Jonathan Cardy ydw i, a fi yw trefnydd GLAM Wikimedia UK. 3 00:00:27,302 --> 00:00:30,613 Fy enw i yw Katie Chan. 4 00:00:30,613 --> 00:00:35,292 Rwy'n gweithio i Wikimedia UK fel Trefnydd Cymorth Gwirfoddolwyr. 5 00:00:35,291 --> 00:00:41,186 Richard Nevell yw fy enw i, ac rwy'n gynorthwyo gwaith swyddfeydd Wikimedia UK. 6 00:00:41,218 --> 00:00:45,565 Daria Cybulska ydw i, a fi yw Rheolwr Rhaglenni Wikimedia UK. 7 00:00:46,186 --> 00:00:49,797 Nod Wikimedia UK yw dod a chymunedau gwirfoddol y DU gyda'i gilydd 8 00:00:49,797 --> 00:00:53,710 i gyd-weithio efo sefydliadau mawr yn GLAM ac yn addysg 9 00:00:53,709 --> 00:00:59,013 er mwyn gwella'r holl brosiectau wrth annog a chefnogi pobl newydd i olygu 10 00:00:59,014 --> 00:01:03,363 ac i sicrhau, ledled Prydain, bod prosiectau Wikimedia 11 00:01:03,363 --> 00:01:07,371 yn cael eu hadnabod fel yr adnoddau enfawr o wybodaeth yr ydynt. 12 00:01:07,829 --> 00:01:13,472 Mae rhaglen GLAM Wikimedia UK yn gyfres o ddigwyddiadau a phrosiectau 13 00:01:13,472 --> 00:01:17,255 ar y cyd gyda galerïau, llyfrgelloedd, archifau ac amgueddfeydd (GLAM). 14 00:01:17,255 --> 00:01:22,438 Y gwirfoddolwyr sy'n arwain. Rydym eisiau iddyn nhw ddweud wrthym ni 15 00:01:22,438 --> 00:01:27,078 y math o bynciau sydd yn eu diddori nhw a pha rannau o wledydd Prydain mae ganddyn nhw ddiddordeb. 16 00:01:27,078 --> 00:01:32,475 Byddwn yna'n ceisio sicrhau bod digwyddiadau yn y rhan honno o'r wlad ac yn y meysydd y dymunwch. 17 00:01:32,475 --> 00:01:36,375 Mae gwirfoddolwyr yn rhan bwysig o'r elusen ar bob lefel. 18 00:01:36,886 --> 00:01:39,580 Y gwirfoddolwyr sy'n ysbrydoli'r hyn rwyf i'n ei wneud 19 00:01:39,580 --> 00:01:43,632 ac maen nhw'n cyfrannu syniadau ar gyfer digwyddiadau a'r rhesymau pam ddylent ddigwydd. 20 00:01:43,632 --> 00:01:47,919 Dw i'n caru'r gwirfoddolwyr gan eu bod yn hanfodol i'n gwaith, ein helusen. 21 00:01:47,919 --> 00:01:51,303 Nhw sydd wrth galon popeth rydym yn ei wneud. 22 00:01:51,303 --> 00:01:57,045 Gwirfoddolwyr sy'n arwain bron pob un o'n digwyddiadau a'n gweithgareddau. 23 00:01:57,045 --> 00:02:00,240 Rwy'n eistedd yma yn ein swyddfa yn Llundain - mae'n boeth dros ben, 24 00:02:00,240 --> 00:02:05,089 Am unwaith yn y DU mae gennym haf go iawn - ond pryd bynnag y dewch i Lundain 25 00:02:05,089 --> 00:02:08,861 mae gennym gadair yma i chi, coffi da, neu de os oes well gennych chi. 26 00:02:08,861 --> 00:02:12,195 Rydym yn croesawu pob Wikimediwr o bob cwr o'r byd yma; 27 00:02:12,195 --> 00:02:13,950 Cewch groeso cynnes yn ein swyddfa. 28 00:02:14,522 --> 00:02:18,160 Dwi'n gobeithio'ch bod chi'n cael andros o hwyl acw 29 00:02:18,160 --> 00:02:22,689 a gobeithio y cewch chi'r un faint o hwyl, os nad mwy 30 00:02:22,689 --> 00:02:26,189 pan ddewch i i Lundain i'r Wikimania y flwyddyn nesaf. 31 00:02:54,449 --> 00:02:57,821 Helo pawb. Rwy'n gobeithio'ch bod chi i gyd yn mwynhau Wikimania draw yn Hong Kong. 32 00:02:57,821 --> 00:03:01,321 Edrychwn ymlaen at eich croesawu yma yn Llundain y flwyddyn nesaf.